BBC Radio Cymru:
Stiwdio gyda Nia Roberts

O'r dyddiau cynnar i ddenu perfformwyr o bedwar ban byd, dyma hanes Gŵyl Delynau Cymru.

Hunangofiant

51Si+AD5PRL._SL500_AA300_.jpg

Cawn ein tywys gan yr awdur - y delynores enwog a gwraig cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley - o Faldwyn i Lanuwchllyn, Aberystwyth i Lundain, o Ferthyr i'r Bontnewydd yn Arfon, ac i lwyfannau'r byd, a hynny yn ei harddull fyrlymus ei hun. Mae ganddi stori werth ei hadrodd.

CONCERT Portrait.jpg

Croeso

Cariad angerddol at gerddoriaeth ac at y delyn a sicrhaodd fod Elinor Bennett yn cael ei chydnabod yn un o brif  gerddorion Cymru. Fel telynores o’r radd flaenaf, adeiladodd yrfa lwyddiannus eithriadol ac mae ei hoffter o berfformio a dysgu yn sicrhau fod llawer o alw am ei gwasanaeth fel athrawes. 

Bu Elinor Bennett yn amlwg ym myd perfformio cerddoriaeth ac addysg gerddorol am flynyddoedd. Ar ddechrau ei gyrfa, fe chwaraeodd Elinor gyda prif gerddorfeydd gwledydd Prydain - Cerddorfa Symffoni Llundain, Y Philharmonia a Cherddorfa Siamr Lloegr yn arbennig. Mae Elinor wedi cynnal cyngherddau, perfformiadau a Dosbarthiadau Meistr ar hyd a lled y byd, ac wedi cyhoeddi llu o recordiadau. Cafodd ei thrwytho yn nhraddodiadau cerddorol Cymru. Hi oedd prif symbylydd Canolfan Gerdd William Mathias a hi oedd y Cyfarwyddwr Artistig hyd at 2008. Bu’n Athro’r Delyn ar Ymweliad yn Academi Frenhinol Llundain ac Ysgol Gerdd y Guildhall yn Llundain. Darllen Mwy

Hunangofiant - Tannau Tynnion

Cawn ein tywys gan yr awdur - y delynores enwog a gwraig cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley - o Faldwyn i Lanuwchllyn, Aberystwyth i Lundain, o Ferthyr i'r Bontnewydd yn Arfon, ac i lwyfannau'r byd, a hynny yn ei harddull fyrlymus ei hun. Mae ganddi stori werth ei hadrodd. Darllen Mwy